Syr David Hanson
oedd yr Aelod Seneddol dros etholaeth Delyn rhwng 1992 a 2019. Yn San Steffan
roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o 1992 nes iddo ymuno
â'r Pwyllgor Gwasanaeth Cyhoeddus ym 1996. Daeth yn Ysgrifennydd Seneddol
Preifat i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Alistair Darling, ym 1997 a daeth yn
aelod o Lywodraeth y DU ym 1998 pan gafodd ei benodi'n Chwip Cynorthwyol y
Llywodraeth.
Cafodd ei
ddyrchafu ym 1999 ar ôl ei benodi'n Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y
Swyddfa Gymreig. Yn 2001 daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Prif
Weinidog Tony Blair hyd at 2005. Gweithredodd fel Gweinidog Gwladol yn Swyddfa
Gogledd Iwerddon o gyfnod yr etholiad cyffredinol yn 2005 hyd at 2007.
Gweithredodd fel Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng 2007 a
2009.
Ar 21 Chwefror
2007, cafodd ei benodiad i’r Cyfrin Gyngor ei gyhoeddi. Roedd yn Weinidog
Gwladol dros Ddiogelwch, Trosedd a Phlismona yn y Swyddfa Gartref rhwng 2009
a’r etholiad cyffredinol yn 2010. Yna, cysgododd y rôl honno, ac yn dilyn yr
etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur cafodd ei benodi'n Weinidog
Cysgodol y Trysorlys. Bu David hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder
a chafodd ei benodi i Bwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch Senedd y DU. Bu hefyd
yn cadeirio dadleuon seneddol ar ran y Llefarydd.
Cafodd David ei
urddo'n farchog am wasanaeth cyhoeddus yn 2020. Cyn cael ei ethol i Senedd y
DU, bu David yn gweithio ym maes manwerthu a'r sector gwirfoddol fel prif
weithredwr elusen genedlaethol, ac roedd yn gynghorydd ac yn arweinydd grŵp cyngor.
Cafodd David ei
benodi i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Awst 2021.