Roedd Sarah yn Ymgynghorydd Annibynnol i'r Senedd rhwng
Chwefror 2019 a Thachwedd 2022.
Dyma oedd ei bywgraffiad ar y pryd a adawodd:
Mae Sarah wedi dilyn gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a
chyfathrebu, gan gynnwys bod yn Bennaeth Cyfathrebu a gwneud rolau Cysylltiadau
Cyhoeddus gyda First Group PLC a bod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymddiriedolaeth
Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol Bryste. Sarah yw Cyfarwyddwr Rheoli cwmni Pinch
Point Communications. Mae ganddi nifer o rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol,
gan gynnwys bod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae hefyd yn cadeirio Sefydliad Taylor Bennett, elusen sy'n ceisio lleoli mwy o
raddedigion BAME ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu corfforaethol.
Cyrhaeddodd Sarah safle 30 yn rhestr y Financial Times, sef yr HERoes Business
List, sy'n dathlu 100 o fenywod rhyngwladol sy'n annog y genhedlaeth nesaf o
arweinwyr sy'n fenywod.