Pobl y Senedd

Jane Hutt AS

Jane Hutt AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Bro Morgannwg

Trefnydd a'r Prif Chwip

Trefnydd a'r Prif Chwip

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Jane Hutt yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Jane Hutt yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) bod arosiadau hir wedi lleihau 70 y cant ers y brig ym mis Mawrth 2022; b) bod amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn c...

I'w drafod ar 28/06/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swydd...

I'w drafod ar 25/06/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a) Adrann...

I'w drafod ar 24/06/2024

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyd...

I'w drafod ar 21/06/2024

 Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a)...

I'w drafod ar 18/06/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 yn...

I'w drafod ar 18/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jane Hutt AS

Bywgraffiad

Trefnydd a’r Prif Chwip

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Jane yn gymrawd anrhydeddus o UWIC ac yn aelod o UNSAIN.

Hanes personol

Treuliodd Jane Hutt ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1972.

Roedd ei thaid a’i nain yn siarad Cymraeg ac yn hanu o ogledd Cymru, ac mae Jane, sydd wedi ymrwymo erioed i weithio dros Gymru, yn dysgu Cymraeg.

Cefndir proffesiynol

Ym 1978, penodwyd Jane yn Gydlynydd Cenedlaethol cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru a hi oedd un o sylfaenwyr Gweithdy Menywod De Morgannwg. Aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr cyntaf Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) ac yn dilyn hynny, fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr Chwarae Teg.

Hi yw awdur 'Opening the Town Hall Door – an Introduction to Local Government’ ac 'A Guide for Women and Employers’.

Hanes gwleidyddol

Roedd Jane yn aelod etholedig o’r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12 mlynedd. Cafodd ei hethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Rhwng 1999 a 2005 gwasanaethodd fel y Gweinidog Iechyd Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Rhwng 2005 a 2007, hi oedd y Gweinidog dros Fusnes y Cynulliad a’r Prif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad, fe’i penodwyd yn Weinidog Cyllideb a Busnes y Cynulliad.

Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, fe’i penodwyd yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009 fe’i penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a'r Gyllideb ac yna’n Weinidog Cyllid tan 2016 pan gafodd ei phenodi i swydd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2011 - 05/04/2016
  5. 06/05/2016 - 28/04/2021
  6. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Jane Hutt AS