Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ni ddylech ysgrifennu mwy na 300 gair. Bydd hyn yn
sicrhau cysondeb rhwng eich proffil chi a phroffiliau eich cyd-Aelodau
Cynulliad.
Diddordebau Mark y tu allan i wleidyddiaeth yw ei deulu
a'i gartref. Mae hefyd yn hwylio llai nag y dylai ac yn hoff o gerdded ei gi.
Mae Mark wedi bod yn gynghorydd cymunedol ar gyfer
Treuddyn, yn gyn-lywodraethwr (ac yn gadeirydd) Ysgol Parc y Llan ac yn
gyn-aelod bwrdd gwirfoddol o Gymdeithas Tai Venture.
Mae'n Aelod o Fwrdd Rheoli Clwb Awtistiaeth
Buddies, yn Is-lywydd Canolfan Adnoddau Anabledd Gogledd Cymru, yn Noddwr o
Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, yn Llysgennad ar gyfer Geidiau
Clwyd, yn Is-lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Is-noddwr prosiect
hwylio RORO, yn aelod o Lys Prifysgol Glyndŵr, yn Aelod o Ymddiriedolaeth Natur
Gogledd Cymru, Un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, yn Llywydd y
Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol, yn Is-lywydd Clybiau Bechgyn a
Merched Cymru, yn Ymddiriedolwr Families Need Fathers Both Parents Matter
Cymru, yn Noddwr o Fforwm Anabledd Sir y Fflint, ac yn Noddwr o Fforwm Polisi
Cymru. Mark hefyd oedd sylfaenydd CHANT Cymru (Ysbytai Cymuned yn Gweithredu'n
Genedlaethol Gyda'i Gilydd) yn yr ail Gynulliad.
Hanes personol
Mae Mark yn byw yn Sir y Fflint gyda'i wraig. Mae
ganddynt chwech o blant ac un ŵyr.
Graddiodd Mark mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle, a chymhwysodd fel
Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Bancwyr. Roedd yn arfer gweithio fel
rheolwr ardal ar gyfer cymdeithas adeiladu yn y Gogledd.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y
tro cyntaf yn 2003, cyn cael ei ail-ethol yn 2007, 2011 a 2016. Yn yr Ail a'r
Trydydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig
mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid, addysg, cyfiawnder cymdeithasol,
cydraddoldeb a thai. Hefyd, roedd yn aelod o nifer o Bwyllgorau'r Cynulliad a
chadeiriodd Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad. Hefyd cadeiriodd Grwpiau
Trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, niwrowyddorau ac angladdau a phrofedigaeth. Yn
y Pedwerydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr
Cymreig dros Gymunedau, Tai, Plismona a Gogledd Cymru, yn ogystal ag eistedd ar
Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Safonau'r
Cynulliad. Cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar awtistiaeth, cyflyrau
niwrolegol, tlodi tanwydd, hosbisau a gofal lliniarol ac angladdau a
phrofedigaeth, a chyd-gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid
ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Ewrop a Gogledd Cymru, yna
Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Thai, ac yn olaf, Gweinidog yr
Wrthblaid dros Gyllid a’r Prif Chwip. Hefyd, roedd yn Gadeirydd ar Grwpiau
Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Awtistiaeth, Anabledd,
Cyflyrau Niwrolegol, ac Angladdau a Phrofedigaeth.
Asedau’r Cyfryngau
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd
Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr
Buddiannau – Yr Ail Gynulliad
(PDF, 362KB)