Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
“Yn y Senedd fy
mhrif ddiddordebau yw lles cenedlaethau’r dyfodol yng ngoleuni’r argyfwng
hinsawdd, yr argyfwng iechyd cyhoeddus a waethygir gan ein dietau afiach, a’r
llygredd aer sy’n gwenwyno ein hysgyfaint. Fy uchelgais yw sicrhau bod y
Llywodraeth a'r holl wasanaethau cyhoeddus yn cyflawni systemau bwyd, tai,
trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy fel y nodir yn glir yn Neddf Lles
Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)."
Hanes personol
Ganwyd Jenny
Rathbone yn Lerpwl ac mae ganddi ddau o blant a dau o wyrion. Mae hi'n byw yng
nghanol etholaeth Canol Caerdydd, ac mae'r rhan fwyaf o’r etholaeth yn hygyrch
ar feic. Cred Jenny y gall pethau da ddigwydd pan fydd cymunedau'n gweithio
gyda'i gilydd a byddai’n fwy na pharod i weithio gydag unrhyw un sydd am fynd
i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n rhy amlwg ym mhob cymuned.
Cefndir
proffesiynol
Gweithiodd Jenny
am 20 mlynedd ym maes materion cyfoes ar y teledu, fel ymchwilydd a gohebydd i
World in Action gan Granada; fel cynhyrchydd Money Programme y BBC, ac ar
Woman's Hour ar Radio 4. Rhwng 2002 a 2007, roedd Jenny yn Rheolwr Rhaglen ar
raglen Sure Start yng ngogledd Llundain a sefydlodd ddwy ganolfan blant, gan
gynnwys gwasanaeth cyn-geni arloesol cenedlaethol a oedd yn cynnig
dosbarthiadau magu plant a chymorth bwydo ar y fron a oedd yn gweithio ochr yn
ochr â chlinigau bydwragedd. Mae gan Jenny brofiad sylweddol o weithio gyda
meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel cadeirydd
Paneli Adolygu Annibynnol ar gyfer y GIG yn Llundain (1996 2003); gwella gofal
cychwynnol fel y cynrychiolydd lleyg ar Bwyllgor Gweithredol Proffesiynol
Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol Islington (2002-2006), gan gadeirio
Partneriaeth Parth Gweithredu Iechyd Camden ac Islington fel prif gynghorydd
iechyd ar Gyngor Islington (1998-2002), ac fel aelod o Bwyllgor Cyswllt
Mamolaeth Camden ac Islington am bron i 20 mlynedd. Roedd Jenny yn arolygydd
lleyg ar gyfer Estyn rhwng 2009 a 2011.
Hanes
gwleidyddol
Etholwyd Jenny
Rathbone i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2011 ar ôl trechu’r Democratiaid
Rhyddfrydol yn sedd Canol Caerdydd. Ym mis Mai 2016, cynyddodd ei mwyafrif dros
2,000 y cant. Dywed Jenny "mae'n hanfodol bod pob plentyn yn cael dechrau
teg mewn bywyd. Dyna pam rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol am dros 20
mlynedd. Mae tai gweddus, cynnes yn hawl i bawb. Rwyf bob amser wedi gweithio
gyda chymdeithasau tenantiaid a sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael â'r
problemau tai, cyffuriau a throsedd sy'n effeithio ar ein bywydau i gyd. Rwy'n
gefnogwr angerddol i'r GIG a grëwyd gan Aneurin Bevan fel Gweinidog Iechyd a
Thai ar ôl yr ail ryfel byd. Rwy'n aelod o Unite ac yn gefnogwr brwd i'r dull
partneriaeth gymdeithasol o gynnwys undebau llafur wrth reoli'r gweithle. Rwy'n
Noddwr balch i Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat ac yn ymddiriedolwr Good Food Llanedeyrn.”
Mae Jenny yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion
Gwledig a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac o'r blaen mae wedi gwasanaethu fel
aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau. Mae Jenny yn cadeirio tri Grŵp Trawsbleidiol, sef ar Fwyd, ar Sipsiwn a
Theithwyr, a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod.