Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae prif ddiddordebau Julie yn cynnwys iechyd, cydraddoldeb, materion
menywod, yr amgylchedd a hawliau plant.
Mae wedi bod yn gefnogol o Macmillan ers amser hir ac mae'n cynnal bore
coffi blynyddol. Mae Julie hefyd yn cefnogi datblygiad y ganolfan ganser £200m
newydd Felindre yng Ngogledd Caerdydd ac wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i
gefnogi grŵp
o gleifion a gafodd Hepatitis C yn dilyn sgandal gwaed heintiedig yn y GIG.
O ran yr amgylchedd, mae Julie yn cefnogi'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cronfeydd Dŵr i arbed cronfeydd dŵr Llanisien a Llysfaen, a bellach eu
hadfer. Mae hi hefyd wedi ymgyrchu ddwywaith i greu llain las swyddogol yng
ngogledd Caerdydd ac mae'n parhau i geisio amddiffyn y tir hwn yn yr hirdymor.
Wedi i fab un o'i hetholwyr gael ei anafu'n ddifrifol gan gi, dechreuodd
Julie gefnogi ymgyrch o blaid rheoli cŵn peryglus. Yn fwy diweddar, bu'n ymgyrchu i
leihau gwastraff bwyd.
Fel aelod o Uno'r Undeb, mae gan Julie ddiddordeb cryf mewn hawliau undebau
llafur a hi yw cadeirydd y grŵp
trawsbleidiol ar undeb PCS, yn ogystal â grwpiau trawsbleidiol ar iechyd a
phlant.
Roedd Julie yn un o sylfaenwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Roedd hefyd yn un
o sylfaenwyr Cymdeithas Celfyddydau'r Merched, ac mae'n un o noddwyr Touch
Trust, Advocacy Matters, Bosom Pals Pontyclun, ar Grŵp Eiriolaeth ar gyfer Menywod sy'n Ceisio
Lloches.
Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Life for African Mothers a hi
yw is-lywydd Hosbis y Ddinas.
Hanes personol
Cafodd Julie Morgan ei geni yng Nghaerdydd a'i haddysg yn Ysgol Gynradd Dinas
Powys, Ysgol Howell's yng Nghaerdydd, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol
Manceinion a Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddi BA Anrhydedd mewn Saesneg a
diploma ôl-radd mewn gweinyddiaeth gymdeithasol.
Cefndir proffesiynol
Roedd Julie yn weithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd a'r Barri, gan weithio
gyda phobl anabl ac ym maes amddiffyn plant. Sefydlodd y cynllun lleoli
teuluoedd cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn
trafferthion. Mae Julie hefyd yn gyn-gyfarwyddwr cynorthwyol i Barnardo's yng
Nghymru.
Roedd hefyd yn gynghorydd ar Gyngor De Morgannwg o 1985 i 1997 ac yn
gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1995.
Hanes gwleidyddol
Ym 1997, etholwyd Julie yn AS dros Ogledd Caerdydd - un o'r 13 o fenywod yn
unig sydd erioed wedi bod yn ASau Cymreig (hyd yn hyn) a'r fenyw gyntaf i
gynrychioli Caerdydd yn San Steffan. Roedd yn AS dros Ogledd Caerdydd am 13
mlynedd nes iddi golli'r sedd o drwch blewyn o 194 o bleidleisiau yn 2010.
Fel AS dros Ogledd Caerdydd, roedd Julie Morgan yn aelod o'r Pwyllgorau
Dethol Cyfiawnder, Materion Cymreig a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac yn aelod o Grŵp Menywod y Blaid Lafur Seneddol.
Roedd yn gadeirydd ar grwpiau sy'n cynnwys y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Plant yng
Nghymru, gan weithio gyda grwpiau gwirfoddol ar gyfer plant ledled Cymru; y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Diwygio'r
Gyfraith Sipsiwn a Theithwyr, a'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Cydraddoldeb Rhyw
(gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol). Roedd hi hefyd yn
gyd-gadeirydd y Grŵp
Hollbleidiol Seneddol ar TB Byd-eang.
Yn ystod ei hamser yn San Steffan, cyflwynodd dri bil aelod preifat - un ar
wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, un ar ganiatáu pleidleisio yn 16 oed, ac
un ar atal pobl dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul, a ddaeth yn gyfraith yn
2010.
Etholwyd Julie yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn 2011. Yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad, roedd hi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor
Cyllid a'r Pwyllgor Amgylchedd, yn ogystal â chadeirio saith grŵp trawsbleidiol yn ymdrin â meysydd fel
plant, canser, a nyrsio a bydwreigiaeth.
Cafodd Julie ei hailethol i’r Pumed Cynulliad â’r nifer uchaf o
bleidleisiau o blith pob Aelod. Bu’n cadeirio’r Grwpiau Trawsbleidiol ar
Ganser, yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn, Roma a
Theithwyr, tan iddi ddod yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ym mis Rhagfyr 2018. Roedd
hefyd yn aelod o ddau bwyllgor, sef y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tan iddi ddod yn Weinidog.