Pobl y Senedd

Mike Hedges AS

Mike Hedges AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Dwyrain Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Mae'r Senedd hon: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer...

I'w drafod ar 22/05/2023

Mae'r Senedd hon : 1. Yn nodi bod UCU Cymru wedi cyhoeddi boicot marcio ac asesu, yn dilyn ei anghydfod ar gyflog ac amodau. 2. Yn nodi ymateb anghymesur llawer o is-gangellorion sefydl...

I'w drafod ar 19/05/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant amddifadedd disgyblion?

Wedi'i gyflwyno ar 18/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesi?

Wedi'i gyflwyno ar 17/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer banciau bwyd?

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar raglen gyfalaf 2023/24 Llywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 02/05/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mike Hedges AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau Mike yn cynnwys chwaraeon, yr Urdd a chorau. Mae Mike yn gysylltiedig â Chyfeillion y Ddaear, Oxfam ac Amnest Rhyngwladol ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, tai, llywodraeth leol, darpariaeth chwaraeon ac amddifadedd cymdeithasol.

Hanes personol

Mae Mike wedi byw yn Nhreforys ers blynyddoedd, ond cafodd ei eni yn Mhlasmarl. Mae'n briod ag Anne ac mae ganddynt ferch, Catrin, sy'n mynd i Prifysgol Bangor. Aeth i ysgolion ym Mhlasmarl, Parklands a Phenlan ac yna i brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Cefndir proffesiynol

Yn wreiddiol, gweithiodd Mike fel gwyddonydd ymchwil ar gyfer British Steel ym Mhort Talbot, ac fe dreuliodd 27 mlynedd fel darlithydd cyfrifiadureg ym Mhontypridd cyn dod yn Aelod Cynulliad.

Hanes gwleidyddol

Fe gynrychiolodd Mike ward Treforys ar Gyngor Abertawe rhwng 1989 a 2012 ac fe gafodd sawl swydd o fewn y cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae wedi bod yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.

Mae'n diddori ym maes addysg, ac mae Mike wedi bod yn llywodraethwr Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, Ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys a Choleg Abertawe, ac mae'n gadeirydd y llywodraethwyr ar gyfer ysgolion cynradd Glyncollen ac Ynystawe ar hyn o bryd.

Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng 1999 a 2005.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mike Hedges AS