Hanes personol
Mae
Huw yn briod â Joanna Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies
ac Irranca, ar ôl priodi). Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u
gwreiddiau teuluol yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau
cryf â'r Blaid Lafur. Mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes
adfywio cymunedol ers tro.
Mae
Huw, a aned yn 1963, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe
ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg Uwch Abertawe (MSc).
Yn
gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru) ac yn "seiclwr bob dydd ar
feic cefn syth", mae hefyd yn ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi
neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)
Cefndir proffesiynol
Cyn
ymuno â'r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y
sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel uwch ddarlithydd mewn addysg uwch.
Mewn isetholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn
Aelod Seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016,
pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogwr.
Hanes gwleidyddol
Huw oedd yr
Aelod Seneddol dros Ogwr rhwng 2002 a 2016, pan roddodd y gorau i'r sedd er
mwyn bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ystod ei
gyfnod fel Aelod Seneddol, bu Huw'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Preifat
Seneddol (PPS) i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Adran Gogledd
Iwerddon a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS); fel Chwip
y Llywodraeth ar gyfer Cymru a DCMS; fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru; ac fel
Gweinidog yr Amgylchedd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Rhwng mis
Hydref 2010 a 2015, bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ynni, ac
yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig. Yn dilyn
yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y
Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno hyd at 2016, pan roddodd
y gorau i'r Senedd er mwyn bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Yn y Bumed
Senedd, roedd yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i ddechrau, cyn mynd ymlaen i fod yn Weinidog Plant a Gofal
Cymdeithasol. Yna, ar gais Prif Weinidog Cymru, daeth yn Gadeirydd ar Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, y Grŵp Cynghori ar Ewrop a Phwyllgor Monitro
Rhaglenni Cymru, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd
(PDF, 3.63MB)