Pobl y Senedd

Adam Price AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Comisiynydd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
37 Wind Street
Rhydaman
SA18 3DN
Swyddfa
01269 597 677
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7177
E-bost
Adam.Price@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Adam Price AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i Adam, i astudio yn y brifysgol o fri rhyngwladol, Harvard. Astudiodd ar gyfer gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yno. Aeth yn ei flaen i ddod yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy yn Harvard.
Yn 2014 enillodd y Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd am ei raglen ddogfen ar Streic y Glowyr ym 1984-1985. Yn 2015 cafodd ei gyfres pedair rhan ddwy Wobr BAFTA Cymru.
Hanes personol
Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ).
Cefndir proffesiynol
Mae Adam yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr i Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg sy'n gweithredu ledled y DU, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Gweithredol yr asiantaeth datblygiad economaidd a newid diwylliannol yng Nghymru, Menter a Busnes.
Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, roedd Adam yn gweithio fel Uwch Reolwr Rhaglen ar gyfer Sefydliad Arloesedd y DU.
Hanes gwleidyddol
Mae Adam yn gyn-Aelod Seneddol, ac roedd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.
Roedd yn frwd ei wrthwynebiad i Ryfel Irac a rôl Tony Blair yn y rhyfel, ac arweiniodd ymgais, ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a'r SNP, i uchelgyhuddo Tony Blair. Cafodd Adam ei daflu allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar 17 Mawrth 2005 am wrthod tynnu'n ôl ei ddatganiad yn cyhuddo Tony Blair o fod wedi camarwain y Senedd.
Cychwynnodd Adam ddadl dair awr ar ymchwiliad i Ryfel Irac, gan arwain at sefydlu Ymchwiliad Chilcot.
Yn ystod ei amser yn Nhŷ'r Cyffredin gwasanaethodd ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Busnes, Arloesedd a Sgiliau.
Adam oedd yr unig Aelod Seneddol o Gymru i gadw cefnogaeth y cyhoedd yn arolwg ar-lein y Western Mail ynglŷn ag Aelodau Seneddol yn ystod y sgandal treuliau yn 2009. Cafodd ei enwi yn Gyfathrebwr y Flwyddyn yng ngwobrau rhaglen AM.PM y BBC yn 2007, ac enillodd wobr Gwleidydd Ymgyrchu y Flwyddyn yn 2005 yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)