Pobl y Senedd

Alun Davies AS

Alun Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Blaenau Gwent

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Alun Davies AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Etholwyd Alun i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) ym mis Mai 2007. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio, cafodd Alun ei ethol yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac yna bu'n gweithio fel ymgyrchydd dros y Gronfa Natur Fyd Eang (WWF) ac Oxfam, gan gynnwys aseiniadau rhyngwladol yn Rwanda a’r Balcanau. Yn dilyn hynny, cafodd yrfa lwyddiannus gyda Hyder Plc., Awdurdod Ynni Atomig y DU ac S4C, ac yna fel cyfarwyddwr ei fusnes ei hun, sef Bute Communications, cyn cael ei ethol. Mae wedi gweithio ar hyd a lled Ewrop a'r Dwyrain Canol, ac mae wedi siarad yn rheolaidd mewn seminarau a chynadleddau rhyngwladol.

Cefndir proffesiynol

Mae gan Alun brofiad gweinidogol helaeth. Yn 2011, cafodd ei benodi’n Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Yn 2013, cafodd ei benodi’n Weinidog dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd. Yn 2016, cafodd ei benodi’n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ac yn 2017, cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Hanes gwleidyddol

Mae Alun bellach yn aelod o ddau bwyllgor yn y Senedd: y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Alun Davies AS