Hanes personol
Etholwyd Alun i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) ym mis Mai
2007. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio,
cafodd Alun ei ethol yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac yna bu'n
gweithio fel ymgyrchydd dros y Gronfa Natur Fyd Eang (WWF) ac Oxfam, gan
gynnwys aseiniadau rhyngwladol yn Rwanda a’r Balcanau. Yn dilyn hynny, cafodd
yrfa lwyddiannus gyda Hyder Plc., Awdurdod Ynni Atomig y DU ac S4C, ac yna fel
cyfarwyddwr ei fusnes ei hun, sef Bute Communications, cyn cael ei ethol. Mae
wedi gweithio ar hyd a lled Ewrop a'r Dwyrain Canol, ac mae wedi siarad yn
rheolaidd mewn seminarau a chynadleddau rhyngwladol.
Cefndir proffesiynol
Mae gan Alun brofiad gweinidogol helaeth. Yn 2011, cafodd ei benodi’n
Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Yn
2013, cafodd ei benodi’n Weinidog dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd. Yn 2016, cafodd
ei benodi’n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ac yn 2017, cafodd ei
benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Hanes gwleidyddol
Mae Alun bellach yn aelod o ddau bwyllgor yn y Senedd: y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu,
y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.