Pobl y Senedd

Andrew RT Davies AS

Andrew RT Davies AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Andrew RT Davies AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Yr economi, iechyd, addysg a materion gwledig. Gweithio ar ran pobl Canol De Cymru i wella eu bywydau bob dydd.

Hanes personol

Ganed Andrew yn y Bont-faen a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanfair, Ysgol Sant Ioan, Balfour House a Choleg Wycliffe. Mae'n briod â Julia ac mae ganddynt bedwar o blant.

Cefndir proffesiynol

Y gymuned fusnes yw cefndir Andrew - fel partner ym musnes ffermio'r teulu ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

Ef yw Llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llantrisant a chyn-Gadeirydd Cymunedau Creadigol, sefydliad sy'n ceisio datblygu cymunedau mewn ffordd strwythurol.

Mae'n llywodraethwr oes ar Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac yn aelod o'r NFU.

Yn 2016, daeth yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Bro Morgannwg.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Andrew â'r Ceidwadwyr Cymreig ym 1997, gan sefyll fel ymgeisydd seneddol yng Ngorllewin Caerdydd yn 2001 ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn 2005. Cafodd ei ethol yn 2007 ar restr ranbarthol Canol De Cymru a chafodd ei ail-ethol i'r Pedwerydd Cynulliad yn 2011 a'r Pumed Cynulliad yn 2016.

Mae Andrew wedi bod yn Weinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth, Addysg ac Iechyd i'r Ceidwadwyr. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, yr economi, iechyd a materion gwledig.

Etholwyd Andrew yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2011.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Andrew RT Davies AS