Roedd Dafydd Elis-Thomas yn Aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei
fywgraffiad pan fu adael.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Dafydd Elis-Thomas yn mwyhau
treulio ei amser hamdden yn cerdded mynyddoedd, a loncian o’r bwthyn teuluol
ger Betws-y-Coed. Mae Dafydd Elis-Thomas hefyd yn weithgar gyda'r Eglwys yng
Nghymru.
Hanes
personol
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi byw y
rhan fwyaf o'i fywyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cefndir
proffesiynol
Mae’n gyn-ymchwilydd ac athro mewn
addysg i oedolion ac addysg uwch.
Hanes
gwleidyddol
Cafodd ei ethol gan ei gyd-Aelodau
yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, yn 2003 ac eto yn 2007, ac mae
wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o wella a diwygio ffyrdd y Cynulliad o
weithio.
Mae’r rhain yn cynnwys Pwyllgor
Deisebau hygyrch, Rheolau Sefydlog clir a newydd, ac ymgyrch ‘Pleidleisio 2011’
i annog pobl i gofrestru i bleidleisio, yn arbennig pobl ifanc. Cyflwynodd
hefyd ddeddfwriaeth newydd i sicrhau bod amodau gwaith staff a chyflogau
Aelodau’r Cynulliad yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Taliadau annibynnol, yn
ogystal â Chomisiynydd Safonau annibynnol a chadarn ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad er mwyn hybu bywyd cyhoeddus o'r ansawdd gorau.
Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
(2011 – 2016), bu Dafydd yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad
Cenedlaethol, ac yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol.
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd (Mehefin 2011 - Mawrth 2014)
Cadeirydd, Gweithgor Tirweddau'r
Dyfodol (Hydref 2015 - Rhagfyr 2017)
Ym mis Hydref 2016, gadawodd Dafydd
Plaid Cymru i fod yn Aelod Annibynnol o’r Cynulliad.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
Cofrestr
Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)