Pobl y Senedd

Darren Millar AS

Darren Millar AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Clwyd

Arweinydd yr Wrthblaid

Roedd Darren Millar yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 2007 a Ebrill 2026.

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Darren Millar AS

Bywgraffiad

Y tro cyntaf i Darren gael ei ethol i Senedd Cymru oedd yn 2007, ac erbyn hyn mae ar ei bedwerydd tymor.

Cyn cael ei ethol i'r Senedd, bu Darren yn gweithio fel rheolwr i elusen ryngwladol yn cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.

Ar ôl cael ei fagu yn Nhywyn, mae Darren bellach yn byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn, sy’n blant hŷn erbyn hyn.

Yn dilyn etholiad y Senedd 2021 penodwyd Darren i swydd y Prif Chwip a llefarydd yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, ar fainc flaen Ceidwadwyr Cymru.

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Senedd Cymru mae Darren wedi bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios yr wrthblaid, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Llywodraeth Leol a Materion Rhyngwladol. At hynny, bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.

Ar hyn o bryd mae Darren yn cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Ffydd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, ag yntau’n un o sylfaenwyr y naill grŵp a’r llall.

Yn 2000/2001 Darren oedd y maer ieuengaf yng Nghymru – mae Darren ar ddeall nad oes maer ifancach wedi bod, hyd yn hyn – pan oedd yn faer ar drefgordd Tywyn a Bae Cinmel. At hynny bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae Darren yn Gristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 - 07/04/2026
  5. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Darren Millar AS