Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau gwahanol etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 27/06/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am dystiolaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru i ymchwiliad COVID y DU ynghylch negeseuon wedi'u dileu?

Wedi'i gyflwyno ar 18/06/2024

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod Gwastadeddau Gwent yn cael eu gwarchod?

Wedi'i gyflwyno ar 12/06/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 06/06/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi:        a) bod y Senedd wedi pasio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ddeng mlynedd yn ôl, sef y ddeddf gyntaf o’r fath yn y byd, gyda’r nod o sefydlu sei...

I'w drafod ar 05/06/2024

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i liniaru effaith amgylcheddol tomenni glo nas defnyddir?

Wedi'i gyflwyno ar 05/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS