Pobl y Senedd

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Ceredigion Penfro

Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Elin Jones yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Elin Jones yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Y Gw. Anrh. Elin Jones AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Elin yn Aelod o’r Senedd ers 1999. Roedd yn cynrychioli Ceredigion yn unig tan 2026, ac ers hynny yn cynrychioli Ceredigion Penfro. Ers 1999 mae Elin wedi arbenigo mewn sawl maes yn y Senedd - o ddatblygu economaidd i’r maes iechyd.

Hanes personol

Cafodd Elin ei geni a’i magu ar fferm yn Llanwnnen ger Llambed. Mae dal i fyw yng Ngheredigion.

Cefndir proffesiynol

Graddiodd mewn Economeg o brifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth a gweithiodd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a’r WDA cyn ei hethol yn 1999.

Hanes gwleidyddol

Bu’n Weinidog Materion Gwledig yn Llywodraeth Glymblaid Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011. Bu’n Ddirprwy Arweinydd Plaid Cymru rhwng 2021 a 2016. O 2016 i 2026 bu’n Lywydd y Senedd – drwy’r cyfnod Brexit a Cofid.

Arall

Yn ei degawd fel Llywydd, gweithiodd ar  raglen gyflawn o ddiwygio Seneddol – yn ei chyfnod cyflawnwyd sefydlu Senedd Ieuenctid, pleidleisiau i bobol ifanc 16 a 17, ail-enwi y Cynulliad yn Senedd, cynyddu y nifer o aelodau i 96 a chreu system bleidleisio mwy cynrychioladol. Ar hyn o bryd mae Elin yn Weinidog Cyllid o fewn Llywodraeth gyntaf Plaid Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2011 - 05/04/2016
  5. 06/05/2016 - 28/04/2021
  6. 08/05/2021 - 07/04/2026
  7. 08/05/2026 -

Digwyddiadau calendr: Y Gw. Anrh. Elin Jones AS