Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Pontypridd Cynon Merthyr

Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Heledd Fychan yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Heledd Fychan yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Fel Aelod o’r Senedd, mae Heledd wedi ymgyrchu ar nifer o bynciau amrywiol gan gynnwys mwy o weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chefnogaeth i gymunedau sy’n wynebu risg parhaus o lifogydd; cau chwarel Craig yr Hesg; rhan mwy canolog i ddiwylliant, hanes, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon yn rhaglenni’r llywodraeth; dyfodol y Gymraeg; taclo tlodi; gwell cefnogaeth i ddysgwyr gyda anghenion dysgu ychwanegol a trafnidiaeth Ysgol.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Fel Cynghorydd, fe wnaeth hi gefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 - 07/04/2026
  2. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS