Roedd Huw Irranca-Davies yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 2016 a Ebrill 2026.
Pobl y Senedd
Huw Irranca-Davies AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru a chydweithredol
Grŵp Llafur Cymru
Afan Ogwr Rhondda
Llywydd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Uned 2
112-113 Commercial Street
Maesteg
CF34 9DL
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7328
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Huw Irranca-Davies AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Hanes personol
Mae Huw yn briod â Joanna Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl priodi). Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid Lafur ac mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol ers tro.
Mae Huw, a aned yn 1963, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg Uwch Abertawe (MSc).
Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru) ac yn ‘seiclwr cyffredin ar feic cefnsyth’, mae hefyd yn ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)
Cefndir proffesiynol
Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel uwch ddarlithydd ym maes addysg uwch. Mewn is-etholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogwr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – sef Senedd Cymru bellach.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Huw ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr yn 2002. Mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gogledd Iwerddon a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel Chwip y Llywodraeth, fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fel Gweinidog yr Amgylchedd.
O 2010, gwasanaethai fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig. Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno tan fis Mai 2016, pan gafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cyn iddo gael ei benodi’n Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif Weinidog, daeth yn Gadeirydd ar Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor Monitro'r Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.
Yn ystod y Chweched Senedd mae wedi dal swydd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Cadeirydd y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a Chadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Roedd hefyd yn aelod o nifer o Grwpiau Trawsbleidiol, gan ddal swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar sawl un.
Ym mis Mawrth 2024 penodwyd Huw yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)