Pobl y Senedd
James Evans AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Reform UK
Grŵp Reform UK Wales
Brycheiniog Tawe Nedd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
2 Penycamlais
Rich Way
Aberhonddu
LD3 7EH
Swyddfa
01874 793 142
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost
James.Evans-MS@senedd.wales
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: James Evans AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gymunedau ledled Brycheiniog Tawe Nedd. Mae ei brif ddiddordebau yn cynnwys cefnogi busnesau lleol, gwella mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, hyrwyddo amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, a sicrhau buddsoddiad teg ym mhob rhan o'r etholaeth. Cafodd James ei fagu ar fferm deuluol, ac mae ganddo ddiddordeb penodol mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd a dyfodol cefn gwlad Cymru. Ym mis Mehefin 2026, cafodd ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig y Senedd. Mae gan James ddiddordeb hirsefydlog mewn rygbi, ac mae'n falch o’r ffaith ei fod wedi bod yn gapten ar ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae hefyd yn mwynhau cadw'n heini a cherdded yn y wlad gyda'i sbaengi, Bonnie.
Hanes personol
Cafodd James ei eni a’i fagu yn ardal Brycheiniog a Sir Faesyfed, sydd bellach yn rhan o etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd. Yn sgil ei brofiad o dyfu i fyny ar fferm deuluol, gwnaeth James feithrin angerdd gydol oes dros yr awyr agored, amaethyddiaeth a'r cyfraniad pwysig y mae ffermio yn ei wneud i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru. Yn ystod ei arddegau, roedd James yn weithgar ym mudiad y Ffermwyr Ifanc. Teithiodd o amgylch yr ardal, gan wneud ffrindiau am oes, datblygu sgiliau ymarferol, a meithrin dealltwriaeth gref o gymunedau gwledig. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth. Yn hytrach na mynd i’r brifysgol, datblygodd ei sgiliau a'i brofiad drwy gyflogaeth a gwasanaeth cyhoeddus. Mae wedi ymrwymo o hyd i gynrychioli cymunedau Brycheiniog Tawe Nedd a helpu pobl o bob cefndir i gyflawni eu potensial.
Hanes gwleidyddol
Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed, ac yna gwasanaethodd fel aelod o gabinet Cyngor Sir Powys. Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol i'r Senedd fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed. Cafodd ei ail-ethol i'r Senedd ym mis Mai 2026, fel un o’r Aelodau sy’n cynrychioli etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd. Ym mis Mehefin 2026, cafodd James ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig y Senedd.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Gweld y Gofrestr Fuddiannau GyfredolSeneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Saethu a Chadwraeth - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)