Pobl y Senedd
Janet Finch-Saunders AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Bangor Conwy Môn
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
29 Stryd Madog
Llandudno
Conwy
LL30 2TL
Swyddfa
01492 871 198
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7247
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Janet Finch-Saunders AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Yn wleidyddol, y meysydd allweddol i Janet yw sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – yn arbennig ar gyfer yr henoed a'r rhai sy'n dioddef o salwch iechyd meddwl; lleihau rheoleiddio a biwrocratiaeth i ffermwyr; sicrhau'r broses lawn o gyflwyno band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig; cefnogi busnesau bach a chanolig; a lleihau gwastraff mewn Llywodraeth ar bob lefel er mwyn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Y tu hwnt i wleidyddiaeth, mae Janet yn frwd iawn o blaid anifeiliaid a chadwraeth forol, ac mae'n weithgar yng nghymuned Llandudno. Mae'n forwr brwd, ac yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu.
Hanes personol
Mae Janet yn briod â Gareth Saunders. Maent yn byw yn Llandudno, ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd – Adam a Hannah.
Cefndir proffesiynol
Fel menyw fusnes ac entrepreneur brwd, sefydlodd Janet nifer o fusnesau lleol llwyddiannus. Mae'n gefnogol o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig sydd wedi ennill eu plwyf, a chychwynnodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.
Hanes gwleidyddol
Ar hyn o bryd, mae Janet yn Aelod o Senedd Cymru yn cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn. Yn flaenorol, gwasanaethodd fel Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Aberconwy ers 2011, ac yn 2016, Janet oedd y deiliad cyntaf i gadw'r sedd yn y Cynulliad. Yn flaenorol, Janet oedd deiliad y portffolio ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a chynrychiolodd y Grŵp fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol rhwng 2012 a 2016 yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan eistedd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cadwodd Janet y portffolio hwnnw fel Llefarydd yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn y Pumed Cynulliad. Yn y gorffennol, cynrychiolodd Janet ward Craig-y-Don ar Gyngor Tref Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn yr awdurdod lleol, bu'n eistedd fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch cymunedol, ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Prif Bwyllgor Craffu ac yn Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Mae Janet yn falch o fod yn gyn-Faer Llandudno, fel y bu ei mam a’i thad cyn hynny.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)