Pobl y Senedd

Joyce Watson AS

Joyce Watson AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Joyce Watson AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Mae Joyce Watson yn briod ac mae ganddi dri o blant, un ŵyr ac un wyres.

Bu'n ddisgybl yn ysgolion Maenorbŷr, Cosheston ac Aberteifi. Aeth Joyce yn ôl i fyd addysg a hithau'n oedolyn, gan astudio yng Ngholeg Penfro a Phrifysgol Abertawe.

Cefndir proffesiynol

Gwasanaethodd Joyce fel Cynghorydd Sir yng Nghyngor Sir Penfro rhwng 1995 a 2004.

Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd Joyce yn rheoli Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru. Roedd yn aelod uwch o'r Grŵp Cyllidebau ar sail Rhyw, Cymru a Grŵp Cyfeirio Cydraddoldeb y GIG.

Mae Joyce wedi rhedeg nifer o fusnesau – tafarndai, bwytai a siopau manwerthu – yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Joyce ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2007.

Mae wedi cynrychioli'r Cynulliad ar sawl corff rhyngwladol: cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (Cadeirydd); y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig; a Chyngres Rhanbarthau Cyngor Ewrop.

Mae Joyce yn hyrwyddo ymgyrch genedlaethol y Rhuban Gwyn yn erbyn trais domestig, ac mae'n un o sylfaenwyr grŵp y Cynulliad yn erbyn masnachu pobl. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyrwyddo'r diwydiant adeiladu ac adfywiad economaidd yng nghefn gwlad – trwy weithio i wella sgiliau, ehangu prentisiaethau a chefnogi busnesau yng nghefn gwlad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Joyce Watson AS