Pobl y Senedd

Ken Skates AS

Ken Skates AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

De Clwyd

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Ken Skates yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Ken Skates yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) i’r graddau eu bod yn dod o...

I'w drafod ar 29/10/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysed...

I'w drafod ar 16/04/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ffoaduriaid o Wcráin ers i Rwsia ymosod ar eu gwlad?

Wedi'i gyflwyno ar 14/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran creu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith newid hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth?

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gadw athrawon?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Ken Skates AS

Bywgraffiad

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg, nofio, heicio a chyrlio. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, gwarchod yr amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol.

Hanes personol

Cafodd Ken Skates ei eni yn 1976 yn Wrecsam. Cafodd ei addysg yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug, ac aeth ymlaen i astudio Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cefndir proffesiynol

Roedd Ken yn y gorffennol yn newyddiadurwr gyda phapur newydd y Wrexham Leader, a BBC Cymru yn Wrecsam. Roedd yn Gynorthwyydd Personol i Mark Tami AS.

Hanes gwleidyddol

Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau polisi Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi a'r economi wleidyddol.

Cafodd Ken ei benodi i Lywodraeth Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn 2011. Yna cafodd ei benodi'n Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014 a'i ddyrchafu'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai 2016.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Ken Skates AS