Roedd Lynne Neagle yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 1999 a Ebrill 2026.
Pobl y Senedd
Lynne Neagle AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Sir Fynwy Torfaen
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
73 Heol Trosnant Uchaf
Pont-y-pŵl
NP4 8AU
Swyddfa
01495 740 022
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7508
E-bost
Lynne.Neagle-AS@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Lynne Neagle AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Lynne yn ymgyrchu’n frwd dros atal hunanladdiad a thros iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae Lynne wedi mynd â’r pryderon hynny i’r Llywodraeth fel y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Hanes personol
Cafodd Lynne Neagle ei geni ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac yna ym Mhrifysgol Reading, lle astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg.
Cefndir proffesiynol
Cyn iddi gael ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny, ym 1999, cafodd Lynne nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Bu’n Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.
Hanes gwleidyddol
Ym mis Mawrth 2024, cafodd Lynne ei phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan gael ei hailbenodi i’r rôl honno ar 11 Medi 2024.
Ar ddechrau'r Chweched Senedd, cafodd Lynne ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Ar ben hynny, cadeiriodd Lynne y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia ac, yn ystod y Bumed Senedd, gwnaeth Lynne sefydlu a chadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Atal Hunanladdiad nes iddi ddod yn ddirprwy weinidog iechyd ar ddechrau'r Chweched Senedd.
Cyn hynny, cadeiriodd Lynne y Grŵp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol am gyfnod hir tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol y cymoedd yn ne Cymru.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 07/05/1999 - 30/04/2003
- 02/05/2003 - 02/05/2007
- 04/05/2007 - 31/03/2011
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
- Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)
Etholiadau
- Etholiad Senedd (Etholaeth) 2021, 06/05/2021
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2016, 06/05/2016
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2011, 05/05/2011
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2007, 03/05/2007
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2003, 01/05/2003
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 1999, 06/05/1999