Y Dirprwy Weinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Lynne yn ymgyrchu’n frwd dros atal hunanladdiad a dros iechyd meddwl
plant a phobl ifanc. Hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn y Bumed Senedd.
Hanes personol
Ganed Lynne
Neagle ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd
Cyfarthfa cyn mynd i Brifysgol Reading lle astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg. Mae
hi’n briod â Huw Lewis, yr Aelod Cynulliad a oedd yn cynrychioli Merthyr Tudful
a Rhymni tan y Bumed Senedd, ac mae ganddi ddau fab.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei
hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, ym 1999, bu Lynne yn
gweithio mewn nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, fel Shelter
Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Roedd yn Swyddog Datblygu Gyrfaoedd gyda
Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd i Glenys
Kinnock ASE.
Hanes gwleidyddol
Lynne oedd
cadeirydd y Grŵp
Llafur yn y Cynulliad am gryn amser, tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol
yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd y
De. Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.
Asedau’r Cyfryngau
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
Cofrestr
Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)