Pobl y Senedd

Mark Drakeford AS

Mark Drakeford AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gorllewin Caerdydd

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Mark Drakeford yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Mark Drakeford yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar economi Cymru yn sgil y posibilrwydd o gael gwared ar bobl ifanc 18 oed o'r gweithlu i ymgymryd â gwasanaeth milwrol go...

Wedi'i gyflwyno ar 29/05/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau cadw staff yn y GIG yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 29/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y paratoadau ar gyfer datganoli'r gwasanaeth prawf yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 15/05/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch nifer y dinasyddion o Gymru y mae eu henwau ar goll o'r gofrestr etholiadol?

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adolygu fframwaith cyllidol Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr ymdrechion i amrywiaethu'r gweithlu deintyddol?

Wedi'i gyflwyno ar 24/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mark Drakeford AS

Bywgraffiad

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Hanes personol

Cafodd Mark ei eni a’i fagu yng Ngorllewin Cymru cyn symud i Orllewin Caerdydd yn y 1970au.

Cefndir proffesiynol

Bu Mark yn swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac yn arweinydd prosiect Barnardo’s yn ardaloedd Trelái a Chaerau. Hefyd, bu’n Athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe.

Hanes gwleidyddol

Bu Mark yn Gynghorydd Sir yn cynrychioli Pontcanna yn y 1980au. Rhwng 2000 a 2010, gweithiodd Mark fel y cynghorydd polisi iechyd a gofal cymdeithasol i Weinidogion Cymru ac, yn ddiweddarach, bu’n bennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog. Cafodd Mark ei ethol gyntaf i gynrychioli Gorllewin Caerdydd yn 2011, a chafodd ei ailethol yn 2016 a 2021. Rhwng 2013 a 2018, daliodd Mark y portffolios Iechyd, Llywodraeth Leol a Chyllid fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru. Ym mis Rhagfyr 2018, daeth yn Brif Weinidog Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mark Drakeford AS