Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau Mike yn cynnwys chwaraeon, yr Urdd a chorau. Mae Mike yn
gysylltiedig â Chyfeillion y Ddaear, Oxfam ac Amnest Rhyngwladol ac mae ei ddiddordebau
gwleidyddol yn cynnwys addysg, tai, llywodraeth leol, darpariaeth chwaraeon ac
amddifadedd cymdeithasol.
Hanes personol
Mae Mike wedi byw yn Nhreforys ers blynyddoedd, ond cafodd ei eni yn
Mhlasmarl. Mae'n briod ag Anne ac mae ganddynt ferch, Catrin, sy'n mynd i
Prifysgol Bangor. Aeth i ysgolion ym Mhlasmarl, Parklands a Phenlan ac yna i
brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
Cefndir proffesiynol
Yn wreiddiol, gweithiodd Mike fel gwyddonydd ymchwil ar gyfer British Steel
ym Mhort Talbot, ac fe dreuliodd 27 mlynedd fel darlithydd cyfrifiadureg ym
Mhontypridd cyn dod yn Aelod Cynulliad.
Hanes gwleidyddol
Fe gynrychiolodd Mike ward Treforys ar Gyngor Abertawe rhwng 1989 a 2012 ac
fe gafodd sawl swydd o fewn y cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae wedi
bod yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym meysydd
gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.
Mae'n diddori ym maes addysg, ac mae Mike wedi bod yn llywodraethwr
Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, Ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys a
Choleg Abertawe, ac mae'n gadeirydd y llywodraethwyr ar gyfer ysgolion cynradd
Glyncollen ac Ynystawe ar hyn o bryd.
Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng
1999 a 2005.