Roed Rebecca Evans yn Aelod o’r Senedd rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2026. Hwn
oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a
chyflawniadau
Cafodd Rebecca ei hethol gyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 i
gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth yn Aelod
Cynulliad dros etholaeth Gŵyr.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio
a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 fe’i penodwyd yn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Iechyd Cyhoeddus. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac
Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 fe ymunodd â’r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid
a’r Trefnydd. Ar 13 Mai 2021 cafodd Rebecca ei phenodi’n Weinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol.
Hanes personol
Cafodd Rebecca ei haddysgu ym Mhrifysgol Leeds, lle astudiodd Hanes. Cafodd
radd Meistr mewn Athroniaeth mewn Astudiaethau Hanesyddol o Brifysgol
Caergrawnt hefyd.
Mae Rebecca yn byw yng Ngŵr
gyda’i gŵr.
Cefndir proffesiynol
Cyn dod yn Aelod Cynlluniad, roedd Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.
Hanes gwleidyddol
Yn y Pedwerydd Cynulliad, penodwyd Rebecca i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddiaeth
Cyffredin. Bu’n gwasanaethu hefyd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Hefyd, yn y Pedwerydd Cynulliad, Rebecca oedd Cadeirydd y Grwpiau
Trawsbleidiol ar Anabledd, Iechyd Meddwl, a Nyrsio a Bydwreigiaeth; ac roedd yn
is-gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Ffydd, Awtistiaeth, a Chwrw a’r Dafarn.
Roedd yn swyddog yn sawl Grŵp
Trawsbleidiol arall, gan gynnwys Cyflyrau Niwrolegol, a Phobl Hŷn.