Pobl y Senedd

Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Brycheiniog Tawe Nedd

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Sioned Williams yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Sioned Williams yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sioned Williams AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Hanes personol

Magwyd Sioned Williams yng nghymoedd Gwent ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe gyda'i gŵr Daniel a'u dau blentyn sydd yn eu harddegau. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Roedd Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Mae Sioned yn adolygydd a sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.

Hanes gwleidyddol

Roedd Sioned yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 - 07/04/2026
  2. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Sioned Williams AS