Pobl y Senedd

Vikki Howells AS

Vikki Howells AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Cwm Cynon

Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Vikki Howells yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Vikki Howells yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Vikki Howells AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau gwleidyddol Vikki yn cynnwys: addysg; trafnidiaeth a'r economi; trechu tlodi; chwarae cynhwysol; adfywio cymunedol; a threftadaeth a diwylliant.

Hanes personol

Vikki Howells yw’r Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon, yn cynrychioli Llafur Cymru. Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn yr etholaeth, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr. Yna, aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru, yn ogystal â gradd meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Wrth astudio yng Nghaerdydd, enillodd Vikki wobr Charles Morgan yn sgil ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.

Cefndir proffesiynol

Roedd Vikki yn athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng Nghaerffili rhwng 2000 a 2016. Ymgymerodd ag amryw rolau bugeiliol yno, gan wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth. Mae Vikki hefyd wedi gweithio fel mentor ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac wedi eistedd ar y panel derbyn ar gyfer cwrs TAR Hanes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Vikki â'r Blaid Lafur yn 17 oed ac mae wedi dal sawl rôl yn ei hetholaeth, gan gynnwys Swyddog Menywod a Chadeirydd y Blaid Lafur Etholaethol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd Vikki ei hethol i Gadeirio Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Vikki Howells AS