Roedd Dafydd Elis-Thomas yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Dafydd Elis-Thomas yn mwyhau treulio ei amser hamdden yn cerdded mynyddoedd, a loncian o’r bwthyn teuluol ger Betws-y-Coed. Mae Dafydd Elis-Thomas hefyd yn weithgar gyda'r Eglwys yng Nghymru.
Hanes personol
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi byw y rhan fwyaf o'i fywyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cefndir proffesiynol
Mae’n gyn-ymchwilydd ac athro mewn addysg i oedolion ac addysg uwch.
Hanes gwleidyddol
Cafodd ei ethol gan ei gyd-Aelodau yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, yn 2003 ac eto yn 2007, ac mae wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o wella a diwygio ffyrdd y Cynulliad o weithio.
Mae’r rhain yn cynnwys Pwyllgor Deisebau hygyrch, Rheolau Sefydlog clir a newydd, ac ymgyrch ‘Pleidleisio 2011’ i annog pobl i gofrestru i bleidleisio, yn arbennig pobl ifanc. Cyflwynodd hefyd ddeddfwriaeth newydd i sicrhau bod amodau gwaith staff a chyflogau Aelodau’r Cynulliad yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Taliadau annibynnol, yn ogystal â Chomisiynydd Safonau annibynnol a chadarn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad er mwyn hybu bywyd cyhoeddus o'r ansawdd gorau.
Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011 – 2016), bu Dafydd yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (Mehefin 2011 - Mawrth 2014)
Cadeirydd, Gweithgor Tirweddau'r Dyfodol (Hydref 2015 - Rhagfyr 2017)
Ym mis Hydref 2016, gadawodd Dafydd Plaid Cymru i fod yn Aelod Annibynnol o’r Cynulliad.