Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Dileu'r popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi methiant y Prif Weinidog i gyflawni ei amcan ei hun o ddod â rhestrau aros i lawr yng Nghymru. Yn gresynu yng Nghymru a) bod nifer...

I'w drafod ar 27/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru i oblygiadau cynlluniau gwariant wedi'r Etholiad Cyffredinol ar Gymru?

Tabled on 26/06/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar gynllun bwydo ar y fron Cymru gyfan?

Wedi'i gyflwyno ar 26/06/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli...

I'w drafod ar 19/06/2024

Gwarchod cymunedau rhag effaith cloddio am fwynau: yr angen i gau Chwarel Craig yr Hesg.

I'w drafod ar 17/06/2024

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn credu y dylid ymgymryd â datblygiadau seilwaith mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac yn unol ag anghenion cymunedau a nodwyd. Yn galw ar Lyw...

I'w drafod ar 14/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS