Pobl y Senedd

James Evans AS

James Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Brycheiniog a Sir Faesyfed

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt ar raddfa fawr ym Mrycheiniog a Maesyfed?

Wedi'i gyflwyno ar 26/06/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith lefelau chwyddiant y DU yn gostwng i ddau y cant, sef y lefel isaf ers bron tair blynedd, ar safonau byw yng Nghymru?

Tabled on 19/06/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Ymhellach i WQ92993, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu amserlen wedi'i diweddaru ar gyfer gweithredu'r dull Actif bob Dydd?

Wedi'i gyflwyno ar 12/06/2024

Pa fesurau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i atal E.coli rhag lledaenu yng Nghymru yn sgil canfod 113 o achosion yn y DU rhwng 25 Mai a 4 Mehefin?

Tabled on 12/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion capasiti staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 12/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: James Evans AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ac i Ganolbarth Cymru. Boed drwy gefnogi a datblygu busnesau, neu drwy sicrhau bod gofal iechyd a gwasanaethau eraill o safon ar gael yn lleol. Mae hon yn ardal sy’n cael ei hesgeuluso’n aml o ran cyllid a buddsoddiad ac mae James am dynnu sylw at y cyfleoedd gwych sydd ar gael ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae James yn chwaraewr rygbi brwd ac mae’n falch o’r cyfnod a dreuliodd fel capten ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae James yn mwynhau cadw’n ffit ac yn mynd i’r gampfa’n aml. Mae’n falch iawn o’i gi Daisy ac yn mwynhau cerdded drwy gefn gwlad godidog yr etholaeth gyda hi.

Hanes personol

Cafodd James ei eni a’i fagu yn etholaeth fendigedig Brycheiniog a Sir Faesyfed. Cafodd ei fagu ar fferm ei deulu ac mae’n frwd iawn dros yr awyr agored, amaethyddiaeth a diogelu’r rôl bwysig sydd gan ddiwydiant yn ein hardal. Yn ei arddegau, treuliodd James gryn amser ar hyd yr etholaeth gyda’r Ffermwyr Ifanc, yn gwneud ffrindiau, meithrin partneriaethau a datblygu sgiliau bywyd. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth, gan ddewis peidio mynd i’r Brifysgol a dysgu drwy brofiad gwaith yn lle hynny. Mae’n benderfynol o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r etholaeth.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed ac yna’n aelod o gabinet Cyngor Sir Powys. Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol yn Aelod o’r Senedd i gynrychioli ei gartref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a dyna uchafbwynt ei fywyd gwleidyddol. Ar hyn o bryd, James yw Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chanolbarth Cymru, ac mae’n falch iawn o fod yn gyfrifol am y portffolio hwn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: James Evans AS