Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Lynne yn ymgyrchu’n frwd dros atal hunanladdiad a thros iechyd meddwl
plant a phobl ifanc. Mae Lynne wedi mynd â’r pryderon hynny i’r Llywodraeth fel
y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac fel Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg.
Hanes personol
Cafodd Lynne Neagle ei geni ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysg
yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac yna ym Mhrifysgol Reading, lle astudiodd
Ffrangeg ac Eidaleg.
Cefndir proffesiynol
Cyn iddi gael ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny,
ym 1999, cafodd Lynne nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan
weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Bu’n Swyddog
Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a bu hefyd yn gweithio
fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.
Hanes gwleidyddol
Ym mis Mawrth 2024, cafodd Lynne ei phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg, gan gael ei hailbenodi i’r rôl honno ar 11 Medi 2024.
Ar ddechrau'r Chweched Senedd, cafodd Lynne ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog
Iechyd Meddwl a Llesiant.
Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg y Senedd, ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon. Ar ben hynny, cadeiriodd Lynne y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia ac, yn ystod
y Bumed Senedd, gwnaeth Lynne sefydlu a chadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Atal Hunanladdiad nes iddi ddod
yn ddirprwy weinidog iechyd ar ddechrau'r Chweched Senedd.
Cyn hynny, cadeiriodd Lynne y Grŵp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol am gyfnod hir
tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau
cymdeithasol, Ewrop a dyfodol y cymoedd yn ne Cymru.