Pobl y Senedd

Natasha Asghar AS

Natasha Asghar AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn sgil y ffaith bod mwy na 100 o ddiffoddwyr tân wedi taclo'r tân dinistriol yn y...

Tabled on 13/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 13/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu parth taliadau cosb Trafnidiaeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 13/11/2024

Ymhellach i WQ94857, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi dadansoddiad o ba awdurdodau lleol sydd wedi gwneud cais a faint a ddarparwyd iddynt o'r £5 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd gan Ly...

Wedi'i gyflwyno ar 08/11/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch y pwysau ariannol presennol y mae cynghorau yn Nwyrain De Cymru yn...

Wedi'i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu faint o ffyrdd sydd wedi dychwelyd i 30mya yn sgil adolygiad diweddar Llywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 05/11/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Natasha Asghar AS

Bywgraffiad

Wedi’i geni yng Nghasnewydd, Natasha yw’r fenyw gyntaf o liw i’w hethol i’r Senedd fel aelod rhanbarthol dros Dde Ddwyrain Cymru. Mae cefndir Natasha ym maes y cyfryngau, gan gynnwys teledu, radio a phrint, ac mae hi wedi gweithio fel banciwr ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gynt. Mae Natasha wedi sefyll mewn sawl etholiad cyn etholiad y Senedd yn 2021. Safodd dros Ddwyrain Casnewydd ddwywaith mewn etholiadau cyffredinol. Mae hi hefyd wedi sefyll dros Flaenau Gwent a Thorfaen yn etholiadau blaenorol y Senedd, yn ogystal â bod yn ymgeisydd ar gyfer Senedd Ewrop (pan oedd yn bodoli!).

Ers ei hethol mae Natasha wedi cael ei chyfweld gan y BBC, ITV, y South Wales Argus, The National, y Caerphilly Observer, a chylchgrawn Golwg, ac mae wedi ymddangos ar raglen Sharp End. Natasha oedd yr Aelod o’r Senedd gyntaf i gael ei chyfweld gan GB News, ac mae hi wedi’i galw’n ‘rym dros newid’ gan British Vogue. Cafodd ei henwi hefyd gan y BBC fel un o’r 100 o fenywod mwyaf 'dylanwadol ac ysbrydoledig' yn y byd, ochr yn ochr â Malala Yousavzai, Melinda Gates a'r actores Ming-Na-wen.

Mae Natasha yn Weinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth a Thechnoleg ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae’n gweithio’n angerddol i geisio sefydlu cerdyn teithio Cymru gyfan, sy’n debyg i’r cerdyn Oyster yn Llundain. Mae’n gobeithio y byddai’r cerdyn teithio yn caniatáu i bawb yng Nghymru, nid twristiaid yn unig, deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gyda phrisiau teg a fforddiadwy ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwell, ac mae’n gobeithio y byddai’n rhoi hwb y mae mawr ei angen i economi Cymru.

Mae hi wedi bod yn frwd erioed dros wneud gwahaniaeth, ac mae'n credu'n gryf y dylai rhywun 'wneud yn ogystal â dweud.'

Mae gan Natasha radd BA mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol ac hefyd radd Meistr mewn Polisi Prydeinig Cyfoes a'r cyfryngau o Brifysgol Llundain.

Yn ei hamser hamdden, mae Natasha yn mwynhau teithio, treulio amser gyda’i ffrindiau, coginio, gwylio ffilmiau, marchogaeth, cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol a gwneud gwaith elusennol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Natasha Asghar AS