Pobl y Senedd
Peredur Owen Griffiths AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Dwyrain De Cymru
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7204
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Peredur Owen Griffiths AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Hanes personol
Yn fab i weinidog, roedd Peredur eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru cyn iddo fynd i ysgol uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, gan gynnwys Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin, Moelfre yn Ynys Môn, Licswm yn Sir y Fflint. Mae gan Peredur Radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Rheoli o Brifysgol Sheffield, ac mae bellach yn byw yng Nghaerffili.
Cefndir proffesiynol
Fel myfyriwr yn Sheffield, cymerodd Peredur swydd ym maes bancio. Ar ôl cwblhau ei radd, aeth Peredur ar drywydd cyflym i fod yn Rheolwr Banc i Santander, a llwyddodd i symud yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant. Tra gyda Santander, bu Peredur yn gweithio mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Mynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Ar ôl Santander, daeth Cymdeithas Adeiladu Principality, lle bu Peredur yn gweithio fel Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer cangen morgeisi preswyl y busnes. Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, ymunodd Peredur â Cymorth Cristnogol fel Cydgysylltydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Etifeddiaeth Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd â Bwrdd Cyfarwyddwyr Alltudion ar Waith, elusen sy'n gweithio i leoli ffoaduriaid. Ei gam nesaf oedd ymuno â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, lle bu'n gweithio gyda nifer o grwpiau ffydd ledled Cymru.
Hanes gwleidyddol
Mae Peredur wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd yng Nghaerffili ers 2017 ac wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel Cadeirydd Cyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Etholaeth Caerffili Plaid Cymru. Yn ymgyrchydd am gyfnod hir dros Plaid Cymru, etholwyd Peredur i'r Senedd y tro cyntaf iddo sefyll yn yr etholiad.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 05/08/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Anabledd - Grŵp Trawsbleidiol
- Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Cerddoriaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Clefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis - Grŵp Trawsbleidiol
- Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol - Grŵp Trawsbleidiol
- Cyfeillion Wcráin - Grŵp Trawsbleidiol
- Cymunedau Diwydiannol - Grŵp Trawsbleidiol
- Diabetes - Grŵp Trawsbleidiol
- Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol - Grŵp Trawsbleidiol
- Materion Pobl Fyddar - Grŵp Trawsbleidiol
- Niwed sy’n gysylltiedig â Gamblo - Grŵp Trawsbleidiol
- Plant yn Ein Gofal - Grŵp Trawsbleidiol
- Plismona - Grŵp Trawsbleidiol
- Pobl Hŷn a Heneiddio - Grŵp Trawsbleidiol
- Tai - Grŵp Trawsbleidiol
- Trafnidiaeth Gyhoeddus - Grŵp Trawsbleidiol
- Undod rhwng cenedlaethau - Grŵp Trawsbleidiol (Is-Gadeirydd)