Pobl y Senedd

Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Bangor Conwy Môn

Prif Weinidog Cymru

Prif Weinidog Cymru

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Mae’r manylion cyswllt a ddarperir yma yn ymwneud â Rhun ap Iorwerth yn ei rôl fel Aelod o’r Senedd. Dylai etholwyr sy’n dymuno cysylltu gyda Rhun ap Iorwerth yn ei rôl fel eu cynrychiolydd lleol ddefnyddio’r rhif ffôn a’r cyfeiriad e-bost a nodir.

O ran materion sy’n ymwneud â’i rôl ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru, dylid cyfeirio gohebiaeth drwy’r manylion cyswllt Gweinidogol sydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhun ap Iorwerth AS

Bywgraffiad

Prif Weinidog Cymru

Hanes personol

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei fuddugoliaeth yn yr is-etholiad yn 2013, bu Rhun yn llefarydd Plaid Cymru ar yr economi a thrafnidiaeth, cyllid, ac iechyd a gofal cymdeithasol. Treuliodd hefyd ddau dymor yn y Senedd yn Gadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Yn 2023, cafodd ei ethol yn Arweinydd Plaid Cymru, cyn cael ei benodi’n Brif Weinidog Cymru ar 12 Mai 2026.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/08/2013 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 - 07/04/2026
  4. 08/05/2026 -

Digwyddiadau calendr: Rhun ap Iorwerth AS