Pobl y Senedd

Siân Gwenllian AS

Siân Gwenllian AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Arfon

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Siân Gwenllian AS

Bywgraffiad

Diddordebau a llwyddiannau

Etholwyd Siân i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Mae’n cynrychioli etholaeth Arfon fel aelod o Blaid Cymru. Cafodd ei hail-ethol i Senedd Cymru yn 2021, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o unrhyw ymgeisydd ar draws Cymru. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys theatr, celf, y sîn gerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.

Hanes personol

Addysgwyd Siân yn Ysgol Friars, Bangor ac ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr magodd ei 4 o blant ar ei phen ei hun. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched ar Gymraeg ers dros 45 mlynedd.

Cefndir proffesiynol

Bu Siân yn gweithio fel newyddiadurwraig gyda'r BBC, HTV a Golwg. Bu hefyd yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.

Hanes gwleidyddol

Rhwng 2008 a 2016 bu’n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, gan gynrychioli’r pentref lle cafodd ei magu, y Felinheli. Ar hyn o bryd mae’n dal y portffolio Tai a Chynllunio ar gyfer Plaid Cymru (2024-) yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd mae hi wedi dal portffolios polisi amrywiol i Blaid Cymru gan gynnwys Addysg, Llywodraeth Leol a Chynllunio, a’r Gymraeg a Diwylliant, a bu’n Gomisiynydd Senedd y Blaid, Trefnydd, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Siân Gwenllian AS