Y Gweinidog Cabinet dros
Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Mae Siân
Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Gwynedd Maldwyn yn Senedd Cymru, ar ôl
cynrychioli Arfon rhwng 2016 a 2026. Cafodd ei hethol i'r Senedd gyntaf yn 2016
a'i hail-ethol yn 2021 gyda chanran uwch o'r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd
arall yng Nghymru, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o'r bleidlais. Yn etholiad
Senedd 2026, dychwelodd fel un o chwe Aelod y Senedd ar gyfer etholaeth newydd
Gwynedd Maldwyn o dan system etholiadol gyfrannol.
Mae hi'n falch o
fod wedi ymgyrchu'n llwyddiannus dros ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru,
wedi'i lleoli ym Mangor o fewn ei hen etholaeth, Arfon.
Yn dilyn etholiad
Senedd 2026, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru gyntaf dan arweiniad Plaid Cymru, a
phenodwyd Siân yn Weinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
Roedd hi wedi dal portffolio Tai a Chynllunio Plaid Cymru (2024–2026) yn
flaenorol, yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Dynodedig Arweiniol yn y Cytundeb
Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru (2021–2024).
Bu’n gweithio ar
46 o feysydd polisi gan sicrhau newidiadau mawr megis prydau ysgol am ddim i
bob disgybl cynradd, ehangu gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r
afael â’r argyfwng tai yn ogystal â chyfrannu at greu Senedd fwy effeithiol a
chynrychioliadol.
Fe’i magwyd ym
mhentref Y Felinheli lle mae’n dal i fyw a derbyniodd ei haddysg uwchradd ym
Mangor. Mynychodd y brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel
newyddiadurwr gyda’r BBC, HTV, Golwg yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu
rhaglenni dogfen ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd
(1997-2004.)
Yn 2008 etholwyd
Siân yn gynghorydd sir dros y Felinheli, gan wasanaethu am 8 mlynedd cyn cael
ei hethol i’r Senedd. Bu’n dal y portffolio cyllid (2010-12) cyn dod yn
Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl
Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.
Mae diddordeb
gwleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol
Aberystwyth bu'n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Mae hi hefyd wedi bod yn
llywodraethwr ysgol gynradd ac uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymuned
lleol ac yn wirfoddolwr gyda llawer o fudiadau lleol. Mae hi wedi bod yn
ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched a’r Gymraeg ers dros 50 mlynedd.
Roedd gan Siân
bedwar o blant gyda’i gŵr,
Dafydd ond yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o
ganser. Magodd Siân y
pedwar plentyn fel rhiant sengl.