Pobl y Senedd

Tom Giffard AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Gorllewin De Cymru
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
12 Ffordd Lias
Porthcawl
CF36 3AH
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7207
E-bost
Tom.Giffard@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Tom Giffard AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Mae gan Tom swyddfa hefyd yn:
80 High Street,
Gorseinon
SA4 4BL
Prif ddiddordebau
Mae blaenoriaethau Tom yn cynnwys cryfhau cynnig Cymru ym maes twristiaeth, hyrwyddo diwylliant Cymru a chefnogi chwaraeon ar lawr gwlad.
Mae gan Tom ddiddordeb brwd ym myd addysg, yn sgil y ffaith ei fod wedi gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Mae ganddo ddiddordeb mawr hefyd yn strwythurau a datblygiadau ym maes llywodraeth leol, a bu’n arwain Grŵp y Ceidwadwyr yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am 4 blynedd.
Hanes personol
Magwyd Tom ym Mhenllergaer, Abertawe, ac yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gan fod ei rieni wedi gwahanu. Graddiodd Tom o Brifysgol Abertawe gyda chymhwyster BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yn 2013. Parhaodd i fyw yn Abertawe am nifer o flynyddoedd cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr yn 2016.
Cefndir proffesiynol
Mae Tom – sy'n siaradwr Cymraeg ail iaith – wedi cael amrywiaeth o rolau yn ystod ei fywyd proffesiynol. I ddechrau, daeth yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Aeth yn ei flaen wedyn i gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, aeth i weithio fel Swyddog Cyswllt Cymunedol yn ei ranbarth, sef Gorllewin De Cymru, cyn trefnu ymgyrchoedd a gweithio gyda gwirfoddolwyr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Cyn cael ei ethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, roedd Tom yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa ar gyfer yr Aelod Seneddol lleol.
Hanes gwleidyddol
Cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2021, cafodd Tom ei ethol yn ward Brackla i wasanaethu ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017, lle bu’n arwain grŵp y Ceidwadwyr ar y cyngor. At hynny, bu’n cadeirio Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan wneud gwaith goruchwylio a gwaith craffu ar gyllideb addysg y cyngor, sy’n gyllideb gwerth miliynau o bunnoedd. Ar ôl cael ei ethol i’r Senedd, cafodd Tom ei benodi’n llefarydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon, ac yn rhinwedd y rôl honno, mae’n parhau i hyrwyddo busnesau a sefydliadau lleol.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 -