Pobl y Senedd
Vikki Howells AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Pontypridd Cynon Merthyr
Comisiynydd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
27 High Street
Aberdâr
CF44 7AA
Swyddfa
01685 881 388
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7163
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Vikki Howells AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol Vikki yn cynnwys: addysg; materion amgylcheddol; materion gwledig; ynni; cynllunio; trafnidiaeth a'r economi; mynd i'r afael â thlodi; adfywio cymunedol; a diwylliant a threftadaeth.
Hanes personol
Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn Aberdâr, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Yna, aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru, yn ogystal â gradd meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Wrth astudio yng Nghaerdydd, enillodd Vikki wobr Charles Morgan yn sgil ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.
Cefndir proffesiynol
Roedd Vikki yn athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng Nghaerffili rhwng 2000 a 2016. Ymgymerodd ag amryw rolau bugeiliol yno, gan wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth. Mae Vikki hefyd wedi gweithio fel mentor ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac wedi eistedd ar y panel derbyn ar gyfer cwrs TAR Hanes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Hanes gwleidyddol
Ymunodd Vikki â'r Blaid Lafur yn 17 oed ac mae wedi dal sawl rôl yn ei hetholaeth, gan gynnwys Swyddog Menywod a Chadeirydd y Blaid Lafur Etholaethol. Roedd Vikki yn Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon rhwng 2016 a 2026 ac mae’n cynrychioli Pontypridd Cynon Merthyr ers 2026. Etholwyd Vikki yn Gadeirydd Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd rhwng 2017 a 2024, cadeiriodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad rhwng 2021 a 2024 a hi oedd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch rhwng 2024 a 2026. Ar hyn o bryd, Vikki yw Prif Chwip y Grŵp Llafur a hi yw llefarydd y Grŵp Llafur ar yr Amgylchedd, Materion Gwledig, Ynni a Thrafnidiaeth.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Gweld y Gofrestr Fuddiannau GyfredolSeneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)