Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Cyfarfod Llawn
Cyfarfod o'r Senedd gyfan yw'r Cyfarfod Llawn, a gynhelir yn Siambr drafod y Senedd. Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn a dyma'r prif fforwm i Aelodau'r Senedd gyflawni eu rôl fel cynrychiolwyr sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd.
Nod y rôl hon yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi i Gymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Maent yn gwneud hynny drwy gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion, cynnal dadleuon a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru.
Cynhelir y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ac mae'n agored i'r cyhoedd i ddod i wylio. Mae Cofnod y Trafodion, sef trawsgrifiad o bob Cyfarfod Llawn, ar gael a gellir chwilio drwyddynt yn llawn. Gallwch hefyd wylio'r Cyfarfod Llawn yn fyw neu wylio hen gyfarfodydd eto ar wefan Senedd TV.
I gael cyflwyniad defnyddiol i weithdrefnau'r Cyfarfod Llawn, gallwch lawrlwytho ein Canllaw i'r Cyfarfod Llawn (PDF, 364kb). Gallwch ddarllen mwy am y mathau o fusnes, sut mae'r busnes yn cael ei drefnu, a'r rheolau y mae'n rhaid i Aelodau o’r Senedd eu dilyn yma.

Dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Y Cofnod
Mae Cofnod y Trafodion yn ei hanfod yn drawsgrifiad gair am air o drafodion cyfarfodydd llawn y Senedd. Mae'n cofnodi'r hyn a gafodd ei ddweud yn ogystal â'r hyn y penderfynwyd arno.
Caiff pob gair sy'n cael ei siarad a phob penderfyniad a wneir yn y Siambr eu cofnodi a'u cyhoeddi ar ein gwefan o fewn 24 awr. Bydd fersiwn drafft ar gael yn ystod y cyfarfodydd hefyd, sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud.
Cwestiynau
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Gwylio Senedd TV
Gwylio yn fyw a ffilmiau archif o’r Cyfarfod Llawn a phwyllgorau.

Chwilio am Aelodau o’r Senedd
Chwilio am Aelodau yn ôl etholaeth, rhanbarth neu blaid.

Deddfu
Dysgwch am sut rydym yn deddfu ac yn newid cyfreithiau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru

Ymweld â'r Senedd
Mae adeilad y Senedd ar gau ar hyn o bryd, ond mae gennym amrywiaeth o deithiau ar-lein a gweithgareddau ymgysylltu rhithwir.