Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026).
Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 7 Mai 2026 a disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.
Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026).
Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 7 Mai 2026 a disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.
Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.
Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.
chevron_rightSefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.