Mae’r pwyllgor hwn wedi cael ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.
Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru' ar 30 Mai 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 6 Hydref 2021 i:
- ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad ar Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Medi 2020;
- erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd.
Diddymwyd y Pwyllgor yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol ar 8 Mehefin 2022.