Un o Fforwm o’r Chweched Senedd (2021 - 2026).
Fforwm y Cadeiryddion - Y Chweched Senedd
Adroddiad
Ar 25 Mawrth, cyhoeddodd y Fforwm ei adroddiad, Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd.
Cylch Gwaith
Beth yw Fforwm y Cadeiryddion
Pwyllgor anffurfiol o gadeiryddion pwyllgorau yw Fforwm y Cadeiryddion, wedi’i gadeirio gan y Llywydd. Mae Fforwm y Cadeiryddion yn galluogi pwyllgorau’r Senedd i wneud y gorau o’u heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd drwy gydgysylltu, cyd-arwain a chyfnewid gwybodaeth. Mae’n gyfle i fynd i’r afael â materion trawsbynciol, rhannu arfer da, ac edrych yn fwy strategol ar waith y pwyllgorau.
Ar ben hynny, fel fforwm ymgynghorol, mae’n helpu i lywio penderfyniadau Comisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Busnes, sy’n effeithio ar ddull gweithredu’r pwyllgorau.