Un o bwyllgorau’r Bumed Senedd (2016-2021) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau/
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Adroddiad Gwaddol
Adroddiad Gwaddol
Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.
Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.
chevron_rightCylch gwaith
Sefydlwyd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 28 Mehefin 2016 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.