Cyhoeddwyd: 7 Mehefin 2024
Awdur: Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymholiad cysylltiedig: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Cyhoeddwyd: 7 Mehefin 2024
Awdur: Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymholiad cysylltiedig: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Mae amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig senedd cenedl yn ganolog i ddemocratiaeth sy'n gweithio’n dda. Mae dod â phobl ynghyd o bob cefndir yn cyfoethogi ein gwaith ac rydym yn cefnogi’r dyhead am Senedd sy’n wirioneddol gynrychioliadol. Mae’r Bil hwn yn gam tuag at sicrhau cynrychiolaeth gwbl amrywiol drwy geisio sicrhau cydraddoldeb o ran cynrychiolaeth dynion a menywod yn y Senedd.
Yn 2003, y Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau’r cydraddoldeb hwnnw. Er nad yw cyfran yr Aelodau sy’n fenywod erioed wedi gostwng o dan 42 y cant, mae’n siomedig nad yw cynrychiolaeth gyfartal wedi’i sicrhau’n gyson, er gwaethaf y camau a gymerwyd gan rai pleidiau gwleidyddol o’u gwirfodd. Wrth inni edrych tuag at ethol Senedd â 96 o Aelodau yn 2026, mae’n briodol inni feddwl am fesurau a allai gyfrannu at ethol Senedd sy’n adlewyrchiad go iawn o’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae mwyafrif aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo gan y dystiolaeth ryngwladol ac academaidd fod cwotâu deddfwriaethol yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cynyddu lefelau cynrychiolaeth menywod mewn seneddau, ac felly’n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod na all y Bil warantu cydraddoldeb, ac y bydd angen ymrwymiad gan bleidiau gwleidyddol i osod menywod mewn safleoedd y gellir eu hennill ar restrau mewn seddi y gellir eu hennill. Rhaid rhoi camau anneddfwriaethol eraill ar waith hefyd, i gyd-fynd â’r Bil, i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae menywod yn aml yn eu hwynebu wrth geisio cael eu dethol a’u hethol i’r Senedd.
Tynnwyd cryn dipyn o sylw at y ddarpariaeth yn y Bil i’w gwneud yn ofynnol i ymgeisydd, fel rhan o’r broses o gael ei enwebu gan blaid wleidyddol, wneud datganiad ynghylch a yw’n fenyw ai peidio. Mae mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn fodlon ar y ddarpariaeth ac maent o’r farn bod hon yn ffordd gymesur o weithredu a gorfodi cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota. Fodd bynnag, fel Pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen diogelu rhag unrhyw ymgais i gamddefnyddio’r broses drwy gynnwys gwneud datganiad ffug yn y drosedd o arfer lwgr sy’n gymwys i ddarparu unrhyw wybodaeth ffug arall ar ffurflen enwebu.
Er bod safbwyntiau gwahanol ynghylch a ddylid cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol ac ynghylch agweddau eraill ar y Bil, rydym yn unfrydol yn ein pryderon ynghylch y risgiau posibl a allai godi os na fydd yr ansicrwydd ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn perthynas â’r Bil hwn yn cael ei ddatrys cyn i'r Bil gael ei weithredu. Os bydd y Senedd yn pasio’r Bil, credwn fod rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol arfer ei bŵer o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyfeirio'r Bil i’r Goruchaf Lys er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ansicrwydd yn ei gylch.
David Rees AS
Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio
Dywedodd yr Aelod sy'n gyfrifol wrth y Senedd:
“Dyma'r ail Fil mewn pecyn o ddiwygiadau a'i ddiben yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol sy'n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well.[…] diben y Bil hwn yw cryfhau'r Senedd drwy geisio sicrhau ei fod yn adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod.”
Ein rôl ni yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Er mwyn gwneud hynny, rydym wedi ystyried y safbwyntiau y mae’r cyhoedd wedi eu rhannu â ni, agweddau'r cyhoedd ar egwyddor cwotâu ymgeiswyr deddfwriaethol ar gyfer etholiadau'r Senedd, a'r dystiolaeth a'r cyngor a gawsom gan academyddion ac arbenigwyr.
Fel Pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen i’r Senedd adlewyrchu’n well y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Mae dod â phobl ynghyd o bob cefndir yn cyfoethogi ein gwaith ac yn ganolog i ddemocratiaeth sy’n gweithio’n dda. Er ein bod yn cydnabod bod gan y Senedd lefel uwch na’r cyfartaledd o Aelodau sy’n fenywod o gymharu â seneddau eraill ledled y byd, rydym i gyd yn cefnogi’r dyhead am gynrychiolaeth gyfartal.
Mae mwyafrif aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo gan y dystiolaeth ryngwladol ac academaidd fod cwotâu deddfwriaethol ynghylch ymgeiswyr yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cynyddu lefelau cynrychiolaeth menywod mewn seneddau ac yn cytuno y dylai'r Senedd bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1 er mwyn iddo allu mynd rhagddo i gyfnodau diwygio'r broses graffu ddeddfwriaethol.
O dan Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), bydd 16 o etholaethau’r Senedd a bydd pleidiau gwleidyddol yn gallu cyflwyno rhestr o hyd at wyth ymgeisydd fesul etholaeth. Mae’r Bil hwn yn cyflwyno tair rheol cwota allweddol y bydd rhaid i bleidiau gwleidyddol gydymffurfio â hwy pan fyddant yn dewis eu hymgeiswyr:
Y trothwy isaf: os bydd dau neu ragor o ymgeiswyr ar restr plaid wleidyddol mewn etholaeth, rhaid i o leiaf hanner yr ymgeiswyr hynny fod yn fenywod.
Y rheol fertigol: oni bai mai dyna’r ymgeisydd olaf ar y rhestr, rhaid i ymgeisydd ar restr nad yw'n fenyw gael ei ddilyn yn syth gan ymgeisydd sy'n fenyw.
Y rheol lorweddol: os bydd plaid yn cyflwyno rhestrau mewn dwy neu ragor o etholaethau, rhaid i’r ymgeisydd cyntaf ar y rhestr yn o leiaf hanner yr etholaethau hynny fod yn fenyw.
Nid yw'r rheolau'n gymwys i ymgeiswyr sy'n sefyll fel unigolion, h.y. y rhai nad ydynt ar restr plaid wleidyddol.
Mae’r Bil hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth ynghylch yr effaith o ran cydymffurfiaeth â’r rheolau cwota os caiff ymgeisydd ei dynnu oddi ar y rhestr ar ôl iddi gael ei chyflwyno (er enghraifft, os bydd yr ymgeisydd yn marw neu’n dewis tynnu’n ôl).
Rydym yn cydnabod na all y rheolau cwota sicrhau cydraddoldeb, a bydd angen ymrwymiad gan bleidiau i osod menywod mewn safleoedd y gellir eu hennill ar restrau mewn seddi y gellir eu hennill. Fodd bynnag, mae mwyafrif aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo mai’r trothwy isaf a gynigir yn y Bil – ynghyd â’i feini prawf gosod fertigol a llorweddol – yw’r cyfle gorau i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd.
Rydym am gael mwy o eglurder ynghylch y prosesau a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth â’r rheolau cwota os bydd ymgeisydd yn marw neu’n tynnu’n ôl, ac am i ddarpariaeth gael ei rhoi ar waith i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw sedd wag yn y Senedd sy’n codi rhwng etholiadau yn cael ei llenwi gan ymgeisydd a wnaeth yr un datganiad â’r Aelod sy’n gadael ynghylch a yw’n fenyw ai peidio.
Mae'r Bil yn darparu ar gyfer creu Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol (‘SCEC’), ac ar gyfer y camau y caniateir i’r SCEC eu cymryd, neu gamau y mae rhaid iddo eu cymryd, pan na fo rhestrau ymgeiswyr yn cydymffurfio â'r rheol lorweddol.
Gall hyn gynnwys darpariaeth ynghylch penderfynu pa restrau sydd i’w haildrefnu, darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Etholaethol (SCEau) aildrefnu rhestrau dethol neu eu galluogi i wneud hynny, a/neu ddarpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i SCEau fynnu nad yw ymgeiswyr wedi’u henwebu mwyach (os mai dim ond un ymgeisydd sydd ar restr ddethol ac nad yw’r ymgeisydd hwnnw’n fenyw) neu eu galluogi i fynnu hynny.
Rydym yn fodlon ar y system orfodi arfaethedig a’r sancsiynau am ddiffyg cydymffurfiaeth a amlinellir yn y Bil, gan gydnabod ei fod yn darparu mecanwaith cryf sy’n dilyn arfer gorau rhyngwladol.
O ystyried rôl sylweddol y SCEC wrth orfodi cwotâu ymgeiswyr, rydym yn credu y byddai’n ddiofal peidio â dynodi dirprwy SCEC yn ffurfiol a allai ymgymryd â'r rôl hanfodol hon gyda’r un cyfreithlondeb, hygrededd ac arbenigedd, pe bai angen, ac rydym am i’r Bil gael ei ddiwygio i’r perwyl hwn.
Rydym hefyd am gael mwy o eglurder am y safonau perfformiad (a’r troseddau cysylltiedig) a fydd yn gymwys i’r SCEC.
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy is-ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr, fel rhan o’r broses o gael eu henwebu’n ymgeiswyr gan blaid wleidyddol, ddatgan a ydynt yn fenyw ai peidio. Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch pwy a gaiff archwilio datganiadau o’r fath. Nid yw'r Bil yn cynnwys diffiniad o'r term 'menyw' at ddibenion datganiadau ymgeiswyr.
Roedd gan lawer o’r rhai a ymatebodd i’n hymgynghoriad bryderon ynghylch defnydd Llywodraeth Cymru o’r termau ‘rhyw’ a ‘rhywedd’ yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil.
Nid oes gan SCEau y pwerau i ymchwilio i'r ffeithiau a nodir mewn papur enwebu. Mae pwerau swyddogion canlyniadau wedi’u cyfyngu i wirio bod y papur enwebu ar ffurf briodol ac yn gywir ar ei wyneb. Gallai deiseb etholiadol gael ei chyflwyno yn erbyn ymgeisydd na ddarparodd wybodaeth gywir yn ei bapurau enwebu.
Bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw na fydd gwneud datganiad ffug ynghylch rhywedd yn rhan o'r drosedd o arfer lwgr sy'n gymwys os bydd ymgeiswyr yn darparu datganiadau ffug am wybodaeth arall fel eu henwau a'u cyfeiriadau.
Mae’r ddarpariaeth yn adran newydd 7D(2) – sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson, fel rhan o’r broses o gael ei enwebu fel ymgeisydd gan blaid wleidyddol, wneud datganiad ynghylch a yw’n fenyw ai peidio – wedi denu cryn dipyn o sylw at y Bil. Rydym yn cydnabod cryfder y teimladau ynghylch hyn ac wedi ystyried yn ofalus yr holl safbwyntiau a rannwyd â ni. Mae mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn fodlon ar y ddarpariaeth ac maent o’r farn bod hon yn ffordd gymesur o weithredu a gorfodi cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota.
Mae mwyafrif aelodau’r Pwyllgor yn cytuno y dylai gweinyddwyr etholiadol dderbyn y datganiad a ddarperir gan ymgeiswyr fel ffaith, yn unol â’r arfer ar hyn o bryd ar gyfer papurau enwebu ymgeiswyr.
Rydym i gyd yn credu ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur cynnwys gwneud datganiad ffug o dan adran newydd 7D(2) fel rhan o’r drosedd o arfer lwgr sy’n gymwys i ddarparu unrhyw wybodaeth ffug arall ar ffurflen enwebu.
Mae’r Bil yn cynnig bod rhaid i’r Llywydd, yn dilyn yr etholiad cyntaf pan gaiff y Bil ei weithredu, gyflwyno cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor i adolygu gweithrediad ac effaith y darpariaethau perthnasol a wneir drwy ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.
Rydym yn cytuno y dylai gweithrediad ac effaith y darpariaethau cwota fod yn destun adolygu cadarn ar ôl yr etholiad cyntaf y maent yn dod i rym ynddo.
Er mwyn llywio’r adolygiad hwn, credwn y dylid gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu a chyhoeddi data ar gyfer yr etholiad cyntaf y gweithredir y cwotâu ymgeiswyr ynddo ynghylch amrywiaeth ymgeiswyr ac Aelodau etholedig.
Er ein bod yn cefnogi’n gryf yr egwyddor y dylai deddfwriaeth fod yn destun adolygu a chraffu ôl-ddeddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu yn ôl y bwriad, mae’r ddarpariaeth hon yn broblematig o safbwynt cyfansoddiadol ac yn ddiangen o safbwynt cyfreithiol yn ein barn ni.
Rydym yn galw ar yr Aelod sy’n gyfrifol i ddileu adran 2 o’r Bil.
Dyma'r canlyniad a ffefrir gennym. Ond, os na wneir hynny, rydym wedi argymell diwygiadau a allai liniaru ein pryderon yn rhannol.
Clywsom dystiolaeth am amryw o faterion gweithredu, gan gynnwys yr amserlen weithredu, yr amserlen etholiadol, yr angen i godi ymwybyddiaeth, a’r goblygiadau ariannol.
Rydym yn cydnabod bod yr amserlen weithredu yn heriol, ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda phartneriaid etholiadol wrth iddi ddatblygu’r is-ddeddfwriaeth.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith newidiadau i’r amserlen etholiadol ar bobl mewn gwahanol amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
Mae gennym rai pryderon ynghylch y dull a ddefnyddiwyd i asesu goblygiadau ariannol y Bil hwn fel rhan o’r pecyn ehangach o ddiwygiadau, a gofynnwn i’r Aelod sy’n gyfrifol roi mwy o eglurder.
O dan drefn cymhwysedd deddfwriaethol y model cadw pwerau, bydd darpariaeth mewn Bil gan y Senedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd oni fydd eithriadau penodol yn gymwys. Er mwyn penderfynu a yw’r eithriadau hyn yn gymwys, mae angen dilyn cyfres o brofion. Nodir y profion sydd fwyaf perthnasol i’n gwaith craffu isod.
Nid yw bob amser yn hawdd asesu a yw darpariaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio, ac rydym wedi clywed safbwyntiau gwahanol a gwrthgyferbyniol ynghylch p’un a oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i basio'r Bil hwn ai peidio.
Nid ein rôl ni yw penderfynu a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio, nac i ragnodi i ba raddau y dylai Aelodau o'r Senedd ystyried bod y diffyg consensws ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol yn ffactor perthnasol wrth i’r Senedd benderfynu a ddylid cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1 neu basio'r Bil yng Nghyfnod 4.
Y Goruchaf Lys yw'r unig gorff all ateb yn bendant a yw darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio. Dim ond ar ôl i Fil gael ei basio y gellir ei gyfeirio i’r Goruchaf Lys o ran y cwestiwn hwn.
Rydym i gyd yn poeni am y risgiau posibl a allai godi os na fydd yr ansicrwydd ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei ddatrys cyn i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol a chael ei weithredu.
Rydym yn galw ar yr Aelod sy’n gyfrifol i weithio gyda’r Llywydd a phartneriaid allweddol i ddatblygu a chyhoeddi llwybr clir ar gyfer nodi, rheoli a lliniaru unrhyw risgiau i etholiad y Senedd yn 2026.
At hynny, rydym yn galw ar yr Aelod sy’n gyfrifol i drafod gyda Llywodraeth y DU y mecanweithiau ar gyfer sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth o ran y cwestiwn ynghylch a fyddai’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan gynnwys unrhyw ddefnydd posibl o Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu Ddeddf gan Senedd y DU gyda’r nod o osgoi trafodaeth gyfreithiol hir a sicrhau bod unrhyw ansicrwydd yn cael ei ddatrys cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Rydym hefyd yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol, os bydd y Senedd yn pasio’r Bil, i arfer ei bŵer o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys a gofyn i’r mater gael ei ystyried, os yw’n bosibl, o fewn amserlen gyflym.
Roedd ein gwaith craffu yn canolbwyntio ar y Bil, a’r cwotâu ymgeiswyr y byddai’n eu cyflwyno. Ond, un o brif themâu’r dystiolaeth yw na fyddai cwotâu yn unig yn ddigon i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a all fod yn ystyried cynnig eu hunain ar gyfer eu dethol neu eu hethol, neu aros mewn swyddi etholedig. Roedd consensws ynghylch yr angen am gamau ategol, anneddfwriaethol, h.y. ‘dull mwy na chwotâu’.
Mae ein hadroddiad yn trafod ystod o faterion, gan gynnwys:
Rydym yn unedig yn ein barn ni fod angen cymryd camau i fynd i’r afael â rhwystrau o ran dethol ac ethol. Rydym am i’r camau hyn gael eu datblygu a’u dylunio mewn ffyrdd sy’n parchu ac yn adlewyrchu hunaniaethau croestoriadol menywod, a’r effeithiau anghymesur sy’n wynebu menywod sy’n dod o gymunedau penodol neu fenywod sydd â nodweddion penodol.
Mae ein hargymhellion yn galw am y camau a ganlyn:
Comisiwn y Senedd i ymgysylltu ac ymgynghori â sefydliadau amrywiaeth fel rhan o’i waith o ddatblygu ystad y Senedd, a chomisiynu archwiliad o’r Senedd sy’n sensitif i rywedd.
Llywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil i’r ffyrdd gorau o ddarparu cymorth ariannol i ymgeiswyr sy’n fenywod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a hynny mewn digon o amser i alluogi darpar ymgeiswyr i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch p’un a ddylent sefyll i gael eu dethol neu eu hethol.
Gwaith i sicrhau bod yr arweiniad a’r gefnogaeth cywir ar gael i ymgeiswyr ac Aelodau a allai wynebu achosion o gam-drin ac aflonyddu.
Cyflwyno sylwadau pellach i Lywodraeth y DU ynghylch y gofynion deddfwriaethol ar gyfer casglu a chyhoeddi data am amrywiaeth ymgeiswyr ac Aelodau, ac eglurder gan Lywodraeth Cymru am y ddyletswydd y mae’n bwriadu ei gosod ar Weinidogion Cymru i ddarparu canllawiau statudol i bleidiau gwleidyddol am gasglu a chyhoeddi data o’r fath.
Adroddiad llawn: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Adroddiad Cyfnod 1