Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Sefydlwyd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 22 Mehefin 2011. Ei rôl oedd sicrhau bod gwaith craffu cywir a thrylwyr yn cael ei wneud ar wariant Llywodraeth Cymru. Câi swyddogaethau penodol y Pwyllgor eu nodi yn Rheol Sefydlog 18. Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus.
Trawsgrifiadau
Gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Is-grŵpiau’r pwyllgor
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:
- Mohammad Asghar (Oscar) (21 Mehefin 2011 - 1 Ebrill 2014) (2 Mehefin 2015 - 6 Ebrill 2016)
- Peter Black (21 Mehefin 2011 - 18 Medi 2011)
- Jocelyn Davies (25 Hydref 2012 - 21 Ionawr 2014) (14 Ionawr 2015 - 6 Ebrill 2016)
- William Graham (1 Ebrill 2014 - 2 Mehefin 215)
- Mike Hedges (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Alun Ffred Jones (21 Ionawr 2014 - 14 Ionawr 2015)
- Ann Jones
(2 Gorffennaf 215 - 8 Gorffennaf 2015)
- Sandy Mewies (24 Ebrill 2013 - 6 Ebrill 2016)
- Darren Millar (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Julie Morgan (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Jenny Rathbone (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Aled Roberts (19 Medi 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Lindsay Whittle (28 Mawrth 2012 - 24 Hydref 2012)
- Leanne Wood (21 Mehefin 2011 - 28 Mawrth 2012)