Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Adroddiad Gwaddol

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Cynulliad, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Pedwrydd Cynulliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau

Sefydlwyd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 22 Mehefin 2011. Ei rôl oedd sicrhau bod gwaith craffu cywir a thrylwyr yn cael ei wneud ar wariant Llywodraeth Cymru. Câi swyddogaethau penodol y Pwyllgor eu nodi yn Rheol Sefydlog 18. Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Trawsgrifiadau

Gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 Is-grŵpiau’r pwyllgor

 Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

 

 

Aelodau'r Pwyllgor