Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Adroddiad Gwaddol

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Pedwerydd Cynulliad gan y Pwyllgor Cyllid

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor Cyllid oedd gweithredu’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau gan Gomisiwn y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, ac yn benodol cyflwyno adroddiad yn ystod cylch blynyddol y gyllideb. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru.

Roedd cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid hefyd yn cynnwys pwerau statudol penodol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ymwneud â chyfrifoldebau ar gyfer goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.

Trawsgrifiadau a gohebiaeth

Gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Cyllid

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

 

Aelodau'r Pwyllgor