Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Hyd y gellir rhagweld, bydd rhaglen y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad agored am safbwyntiau fel rhan o’r ymchwiliad hwn. Nid oes angen ymateb maith, ac nid oes terfyn amser i’w gyflwyno – gofynnwn i chi rannu’r hyn a allwch, pan allwch. Bydd pob ymateb a geir yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor ac ei helpu gyda’i waith.
Bydd y materion i’w trafod gan y Pwyllgor yn ystod y gwanwyn yn cynnwys brechu, profi ac effaith y pandemig ar ofal cymdeithasol, gofalwyr di-dâl ac amseroedd aros.
Ar y cyd â’r ymchwiliad hwn, bydd rhaglen dreigl o sesiynau tystiolaeth lafar rhithwir. Gellir gwylio’r holl gyfarfodydd, yn fyw, ar Senedd.tv. Caiff agenda derfynol ar gyfer pob cyfarfod ei chyhoeddi ar ein gwefan bob dydd Gwener.
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Amcanion Strategol, Blaenoriaethau’r Pwyllgor a Blaenraglen Waith
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 28 Mehefin 2016 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
Aelodau'r Pwyllgor
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Rhestr Termau
Os ydych yn newydd i Fusnes y Senedd a'r termau a ddefnyddir i ddisgrifio ei weithdrefnau ac allbynnau, ewch i'r adran cymorth

Y broses ddeddfu
Gwybodaeth am y broses ddeddfu.